Letters Patent - Granting the Titles Prince of Wales and Earl of Chester to the Duke of Cambridge [2023-02-13]
Dublin Core
Title
Subject
Description
Creator
Source
Date
Contributor
Coverage
Letters Patent Item Type Metadata
Transcript
|
CHARLES THE THIRD by the Grace of God of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland and of Our other Realms and Territories King Head of the Commonwealth Defender of the Faith To all Lords Spiritual and Temporal and all other Our Subjects whatsoever to whom these Presents shall come Greeting Know Ye that We have made and created and by these Our Letters Do make and create Our most dear Son and most faithful Counsellor William Arthur Philip Louis Prince of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland Duke of Cornwall Rothesay and Cambridge Earl of Carrick and Strathearn Baron of Renfrew Baron Carrickfergus Knight Companion of Our Most Noble Order of the Garter Knight of Our Most Ancient and Most Noble Order of the Thistle Lord of the Isles and Prince and Great Steward of Scotland Prince of Wales and Earl of Chester And to the same Our most dear Son William Arthur Philip Louis Have given and granted and by this Our present Charter Do give grant and confirm the name style title dignity and honour of the same Principality and Earldom And him Our most dear Son William Arthur Philip Louis as has been accustomed We do ennoble and invest with the said Principality and Earldom by girting him with a Sword by placing a Coronet on his head and a Gold Ring on his finger and also by delivering a Gold Rod into his hand that he may preside there and may direct and defend those parts To hold to him and his heirs Sovereigns of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland and of Our other Realms and Territories Heads of the Commonwealth for ever Wherefore We Will and strictly command for Us Our heirs and successors that Our most dear Son William Arthur Philip Louis may have the name style title state dignity and honour of the Principality of Wales and Earldom of Chester aforesaid unto him and his heirs Sovereigns of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland and of Our other Realms and Territories Heads of the Commonwealth as is above mentioned In Witness whereof We have caused these Our Letters to be made Patent Witness Ourself at Westminster the thirteenth day of February in the first year of Our Reign BY WARRANT UNDER THE KING’S SIGN MANUAL ROMEO |
CHARLES Y TRYDYDD trwy Ras Duw Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a’n Teyrnasoedd a’n Tiriogaethau eraill Pennaeth y Gymanwlad Ceidwad y Ffydd at bob Arglwydd Ysbrydol a Thymhorol a’n Deiliaid eraill oll at ba rai bynnag ohonynt y daw’r Ysgrifeniadau hyn Henffych Well Bydded hysbys i chwi inni wneud a chreu a thrwy’r Dogfennau hyn Eiddom wneud a chreu Ein hanwylaf Fab a’n ffyddlonaf Ddirprwy William Arthur Philip Louis Tywysog o Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon Dug Cernyw Rothesay a Chaergrawnt Iarll Carrick a Strathearn Barwn Renfrew Barwn Carrickfergus Marchog Gydymaith Ein Boneddigeiddiaf Urdd y Gardas Aur Marchog Ein Hynaf a’n Boneddigeiddiaf Urdd yr Ysgallen Arglwydd yr Ynysoedd Tywysog ac Uchel Ddistain yr Alban yn Dywysog Cymru ac Iarll Caerllion Fawr ac i’n unrhyw anwylaf Fab William Arthur Philip Louis Rydym wedi rhoi a thrwy hon Ein Siarter bresennol rydym yn rhoi a chadarnhau enw teitl ystîl urddas ac anrhydedd yr unrhyw Dywysogaeth ac Iarllaeth Ac ef Ein hanwylaf Fab William Arthur Philip Louis yn ôl yr arfer a’r ddefod Rydym yn ei urddo a’i arwisgo â’r Dywysogaeth a’r Iarllaeth ragddywededig drwy ei wregysu â Chledd drwy osod Coronig ar ei ben a Modrwy Aur am ei Fys a thrwy draddodi at hynny Wialen Aur i’w law fel y gall lywyddu yno a chyfarwyddo ac amddiffyn y rhannau hynny i ymlynu wrtho a’i etifeddion Frenhinoedd Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a’n Teyrnasoedd a’n Tiriogaethau Penaethiaid y Gymanwlad hyd byth Gan hynny Rydym yn ewyllysio a chan orchymyn yn gorchymyn I Ni Ein hetifeddion a’n holynwyr y bydd Ein hanwylaf Fab William Arthur Philip Louis yn cael enw teitl ystîl safle urddas ac anrhydedd rhagddywededig Dywysogaeth Cymru a rhagddywededig Iarllaeth Caerllion Fawr iddo ef a’i etifeddion Frenhinoedd Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a’n Teyrnasoedd a’n Tiriogaethau Penaethiaid y Gymanwlad fel y crybwyllir uchod yn Dystiolaeth o hynny yr ydym wedi peri gwneuthur y Dogfennau hyn Eiddom yn Agored Tystied Ein Hunain yn San Steffan ar y trydydd diwrnod ar ddeg o fis Chwefror ym mlwyddyn gyntaf Ein Teyrnasiad DRWY WARANT DAN LOFNOD Y BRENIN ROMEO |
Warranty
Seal Type
Ornamentation
King Charles III's name is in boldface.
"Prince of Wales" and "Earl of Chester" are in boldface in both texts.
